Tywysog Cymru a Duges Cernyw 2006
Adolygiad Blynyddol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru 2006
Diben yr Adolygiad Blynyddol yma yw cynnig golwg cyffredinol o weithgareddau swyddogol ac elusennol Tywysog Cymru a Duges Cernyw. Mae hefyd yn cynnig gwybodaeth am eu hincwm a'u gwariant swyddogol ar gyfer y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2006.
Mae'r Adolygiad yn disgrifio rôl a gweithgareddau Tywysog Cymru sydd â thair prif elfen: cyflawni dyletswyddau brenhinol er mwyn cefnogi'r Frenhines, gweithio fel entrepreneur elusennol, a hybu ac amddiffyn traddodiadau, rhinweddau a rhagoriaeth y genedl.


