Rôl Y Tywysog
Rôl Y Tywysog
Er nad oes gan Etifedd Yr Orsedd rôl gyfansoddiadol sefydlog, mae Tywysog Cymru'n ceisio gwneud popeth posib i ddefnyddio'i safle unigryw i wella pethau yn y Deyrnas Unedig a thramor. Mae ffyrdd Ei Uchelder Brenhinol o wneud hyn yn amrywio dros amser ac yn ôl amgylchiadau. Yn syml, mae'n bosib rhannu ei rôl yn dair rhan:
(i) Gwneud dyletswyddau brenhinol i gefnogi'r Frenhines. Mae hyn yn golygu:
- cefnogi'r Frenhines yn ei rôl fel canolbwynt balchder, undod a theyrngarwch y genedl
- ceisio dod â phobl o bob rhan o gymdeithas at ei gilydd
- cynrychioli sefydlogrwydd a pharhad
- tynnu sylw at gyflawniadau
- pwysleisio pa mor bwysig yw gwasanaethu a'r sector gwirfoddol drwy annog a gosod esiampl.
(ii) Gweithio fel entrepreneur elusennol
Mae Tywysog Cymru wedi mynd ati i gydnabod pwysigrwydd angen elusennol, gan sefydlu a llywio elusennau i gwrdd â'r angen yma. Mae gofyn i'w Uchelder Brenhinol helpu'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol ei 17 elusen graidd i godi tua £100 miliwn y flwyddyn.
(iii) Hybu ac amddiffyn traddodiadau, rhinweddau a rhagoriaeth genedlaethol
Mae'r gwaith yma'n cynnwys rhoi sylw i farn pobl na fyddai, fel arall, efallai'n cael sylw. Mae Ei Uchelder Brenhinol yn gwneud hyn drwy sgrifennu llythyrau at Weinidogion y Llywodraeth a phobl ddylanwadol eraill, a chyfarfod â nhw. Mae e hefyd yn areithio, yn sgrifennu erthyglau ac yn cymryd rhan mewn rhaglenni teledu. Wrth wneud hyn, mae e bob amser yn gofalu osgoi pynciau gwleidyddol llosg.


