Gwaith Y Tywysog yng Nghymru
Gwaith Y Tywysog yng Nghymru
Mae'r Tywysog yn falch iawn o'i gyswllt â Chymru ac mae'n cymryd ei ddyletswyddau fel Tywysog Cymru o ddifri'. Gall Ei Uchelder Brenhinol olrhain ei linach yn ôl drwy'r Tuduriaid i Dywysogion gwreiddiol Cymru. O'r rheini, Tywysog ola' Cymru oedd yn frodor o'r wlad oedd Llywelyn ap Gruffydd (1246-82). Yn 1969, fe dreuliodd Tywysog Cymru un tymor yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i ddysgu Cymraeg, cyn cael ei arwisgo'n ffurfiol fel Tywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon ar 1 Gorffennaf 1969.
Ers iddo dyfu'n wr, mae'r Tywysog wedi cynnal perthynas agos â Chymru. Yn wir, un o'r rhesymau dros ddewis Highgrove fel cartre' ei deulu oedd y ffaith ei fod yn agos at Gymru. Mae Ei Uchelder Brenhinol yn teithio drwy'r wlad yn flynyddol er mwyn cwrdd â chymunedau cefn gwlad a threfi. Lle bynnag mae hynny'n bosib, mae'n defnyddio'i wybodaeth am yr iaith Gymraeg.
Mae Ei Uchelder Brenhinol wedi sefydlu dwy elusen sydd â'r bwriad o helpu pobl Cymru. The Prince's Trust Cymru a PRIME-Cymru yw'r ddwy elusen. Mae'r gynta'n helpu pobl 18-30 oed i sefydlu'u busnesau'u hunain, a'r ail yn helpu pobl dros 50 oed.
Mae'r Tywysog yn gweithredu fel Noddwr nifer o fudiadau allweddol sy'n gweithio i gadw a chefnogi diwylliant a threftadaeth Cymru. Ymysg y mudiadau mae: Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru, Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Cymdeithas Gwartheg Duon Cymreig a Chwmni Opera Cenedlaethol Cymru. Mae Ei Uchelder Brenhinol wedi gweithredu fel Canghellor Prifysgol Cymru er 1976 hefyd.
Yn 2000, fe gafodd swydd Telynores Swyddogol Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru ei hadfer. Y nod oedd dathlu a meithrin talentau cerddorol Cymru a gweddill y DU, a chodi proffil y delyn fel offeryn cerdd. Jemima Phillips o Lyn Ebwy yn Ne Cymru yw'r delynores bresennol.
Fel aelodau eraill y Teulu Brenhinol, mae cyswllt personol agos gan Dywysog Cymru â'r Lluoedd Arfog. Yn ogystal â'i wasanaeth ei hun gyda'r Lluoedd, mae'n gweithredu fel Prif Gyrnol sawl Llu.
Mae Tywysog Cymru'n cymryd rhan bob blwyddyn yn seremoni Cyflwyno'r Faner yn Horse Guards, Llundain, gan wisgo'i lifrai fel Cyrnol y Gwarchodlu Cymreig. Mae wedi gweithredu yn y swydd honno er 1975, y flwyddyn gynta' iddo farchogaeth yn y seremoni hynafol sy'n dathlu pen-blwydd swyddogol Y Frenhines.
Penodiad cynta' Ei Uchelder Brenhinol fel Prif Gyrnol oedd ar Gatrawd Frenhinol Cymru. Fe gafodd ei benodi i'r safle yna ar 1 Gorffennaf 1969, sef y diwrnod y cafodd ei arwisgo'n Dywysog Cymru yng Nghastell Caernarfon.


